POLISI IAITH

In line with our ethos as an organisation, the majority of the content on this website is in Welsh only. We welcome participation from everyone who subscribes to our aims – including those who are learning Welsh. On-line tools are readily available to translate the content presented here should you wish to read it in English. If you have any difficulty doing so, please contact us for support.

Yn unol â’n hethos fel sefydliad, mae mwyafri’r cynnwys ar y wefan hon yn y Gymraeg yn unig. Rydym yn croesawu cyfranogiad gan bawb sy’n cefnogi ein hamcanion – gan gynnwys y rhai sy’n dysgu Cymraeg. Mae offer ar gael ar-lein yn rhwydd i gyfieithu’r cynnwys a gyflwynir yma os hoffech ei ddarllen yn Saesneg. Os oes gennych unrhyw anhawster i wneud hynny, cysylltwch â ni am gyngor.

EIN HAMCANION SYLFAENOL

Elfennau Craidd

TREFTADAETH

Cysylltu â’n gorffennol a’n treftadaeth genedlaethol; treftadaeth sy’n perthyn i bawb.

IAITH

Normaleiddio’r Gymraeg yn ein cymunedau ledled Cymru a darparu lle di-academaidd i bobol ddefnyddio, rhannu a rhyngweithio drwy’r iaith.

DIWYLLIANT

Ail-gysylltu, rhannu, hyrwyddo a normaleiddio ein treftadaeth ddiwylliannol.

CYMUNED

Cysylltu pobol â lle. Tirio pobol a chymunedau gydag ymdeimlad o gyd-berthyn.

CHWARAEON AMATUR

Mae chwaraeon amatur yn perthyn i – ac yn cysylltu gyda – chymuned ac yn bodoli er mwynhâd. I’r gwrthwyneb, mae chwaraeon propffesiynol yn perthyn i – ac yn cael eu gyrru gan – elitiaeth, adloniant, antur a busnes.