SUT ALLWCH CHI GYFRANNU
Mae CCC yn fudiad bach gydag uchelgeisiau mawr – ac rydyn ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr fel chi i’n
helpu ni i’w adeiladu.
Wrth gwrs, bydd ein prif weithgareddau’n ymwneud â’n chwaraeon (bando a chnapan). Os hoffech
chi chwarae/hyfforddi’r gemau hyn, rhowch wybod i ni a gallwn eich cynnwys yn ein cynlluniau ar
gyfer cyrsiau hyfforddi.
Byddem yn ddiolchgar os gallwch ddewis, hefyd o’r rhestr isod pa agweddau eraill ar ein gwaith yr
hoffech gyfrannu atynt.