Mae Gweinidog y Llywodraeth dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, wedi pwysleisio ei hymrwymiad i gefnogi’r ddau faes fel elfennau hanfodol o gymdeithas Cymru, ac wedi gwahodd sylwadau fel rhan o broses ymgynghori ar strategaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygu’r meysydd hyn. Bydd CCC yn cyflwyno ymateb ac mae croeso i unigolion gyfrannu hefyd; felly, os hoffech rannu eich syniadau, gallwch wneud hynny yma yn Gymraeg neu yn Saesneg yma.